
Stephanie Windsor-Lewis
Mezzo Soprano
Cwblhaodd Stephanie Windsor-Lewis, mezzo-soprano o Brydain, ei hastudiaethau fel artist ifanc yn y Teatro Del Maggio Musicale Fiorentino, ac yn y Teatro Comunale di Bologna. Cyn hynny, astudiodd yn Ysgol Opera Ryngwladol Benjamin Britten yn y Coleg Cerdd Brenhinol gyda Ryland Davies a Tim Evans-Jones.
Mae ei rhannau operatig wedi cynnwys 'Suzuki' Puccini Madame Butterfly ar gyfer Opera Cenedlaethol Lloegr a'r Teatro Comunale di Bologna, 'Giovanna Seymour' Donizetti Anna Bolena yn yr Opera Metropolitan yn Efrog Newydd (dirprwy), 'Rosina' Rossini il Barbiere di Siviglia, 'Rosmira' Handel Partenope ar gyfer Opera Cenedlaethol Lloegr, 'Madama Rosa' Donizetti il Campanello, a ‘Cesca’ Puccini Gianni Schicchi ar gyfer y Teatro Del Maggio Musicale Fiorentino, a 'Lucia' Rossini La gazza ladra yn y Teatro Comunale di Bologna, La Macchina gan Raffaele Grimaldi ar gyfer y Biennale di Venezia a Teatro Donizetti di Bergamo, 'Meg Page' Verdi Falstaff, Prosiect Opera/Opera Longborough, 'Cenerentola' Rossini Cenerentola, 'Ottavia' l’ incoronazione di Poppea, a 'Baba'r Twrc' Stravinsky The Rake’s Progress.
Mae'r cyngherddau y mae Stephanie wedi cymryd rhan ynddynt yn cynnwys cyngerdd mawreddog gyda'r tenor o fri, Josè Carreras yn Singapore lle'r oedd yn unawdydd, Sinfonia Berio ar gyfer Gŵyl Lucerne gyda Pierre Boulez, 9fed Symffoni Beethoven yng Nghanolfan y Barbican gyda'r Royal Philharmonic, Meseia Handel, Requiem Mozart a Gloria Vivaldi yn Neuadd Frenhinol Albert.
Enillodd wobrau cyntaf yng nghystadleuaeth Benvenuto Franci a Chystadleuaeth Premio Crescendo yn Fflorens, ac roedd yn rownd derfynol Cystadleuaeth Ernst Haefligger yn y Swistir.